Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Fideo gynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 12 Hydref 2020

Amser: 09.30 - 11.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6470


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AS (Cadeirydd)

Carwyn Jones AS

Dai Lloyd AS

David Melding AS

Tystion:

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Chris Warner, Llywodraeth Cymru

James Gerard, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd David Melding fuddiant mewn perthynas ag eitem 2.

</AI1>

<AI2>

2       Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog (tan 9.55am) a'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â'i ymchwiliad ynghylch Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru.

</AI2>

<AI3>

3       Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI3>

<AI4>

3.1   SL(5)623 - Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI4>

<AI5>

3.2   SL(5)628 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI5>

<AI6>

3.3   SL(5)625 - Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

3.4   SL(5)626 - Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI7>

<AI8>

3.5   SL(5)627 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI8>

<AI9>

3.6   SL(5)629 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI9>

<AI10>

4       Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

</AI10>

<AI11>

4.1   SL(5)619 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn am eglurhad pellach mewn perthynas â'r amserlenni ar gyfer adolygu cyfyngiadau lleol.

</AI11>

<AI12>

4.2   SL(5)621 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

</AI12>

<AI13>

5       Is-ddeddfwriaeth sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

</AI13>

<AI14>

5.1   C(5)042 - Gorchymyn Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (Cychwyn) 2020

Trafododd y Pwyllgor y Gorchymyn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI14>

<AI15>

6       Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

</AI15>

<AI16>

6.1   WS-30C(5)167 - Rheoliadau yr Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Ymadael â'r UE) 2020

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

</AI16>

<AI17>

6.2   WS-30C(5)168 - Rheoliadau Maeth (Diwygio etc) (Ymadael â'r UE) 2020

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

</AI17>

<AI18>

7       Papurau i'w nodi

</AI18>

<AI19>

7.1   Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Gwaith dilynol i sesiwn graffu’r Pwyllgor ar 21 Medi 2020

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

</AI19>

<AI20>

7.2   Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Bil Marchnad Fewnol y DU

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

</AI20>

<AI21>

8       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

</AI21>

<AI22>

9       Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Prif Weinidog.

</AI22>

<AI23>

10    Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020: Trafod yr adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i’w drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf.

</AI23>

<AI24>

11    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cam-drin Domestig: Trafod gohebiaeth

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cam-drin Domestig a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am eglurhad pellach cyn drafftio ei adroddiad.

</AI24>

<AI25>

12    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) (Rhif 2): Trafod y materion allweddol

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2). Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI25>

<AI26>

13    Rheoliadau Covid-19: Trafod gohebiaeth

Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd mewn perthynas â chraffu ar reoliadau Covid-19 a chytunodd i drafod ei ymateb yn y cyfarfod nesaf.

</AI26>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>